Their Story
PC Non Wyn Parry dedicated almost three decades of her life to policing and the communities of North Wales.
From a young age, Non knew that she wanted to become a police officer. She had done extremely well academically, gaining around ten O Levels, and was encouraged to continue with her education, potentially towards university and a career in teaching. Non had other ideas. At just 16, she left school to become a police cadet before joining North Wales Police as a police constable at around the age of 18½, in approximately 1981.
Non began her career in response policing and went on to serve in a variety of roles. She became a HOLMES indexer and was involved in a number of major investigations during a particularly challenging period for policing in North Wales. Her abilities as an investigator were recognised by colleagues and she was encouraged to pursue detective work, undertaking periods of service as a detective constable.
She later served within community policing, worked as a dispatcher in a divisional control room and was involved in specialist investigative work surrounding the holiday-home arsons in Wales. Throughout her career, Non earned a reputation as a trusted, capable and highly professional police officer.
Her service also brought experiences that few outside policing will ever fully understand. While policing communities around the foot of Snowdon, Non dealt with mountain fatalities and other traumatic incidents, including the death of a young Scout following a fall. She was also assaulted during her service. Like generations of officers, much of this was experienced during a time when the psychological impact of police work was rarely spoken about in the way it is today.
During the later years of her career, Non worked as a disclosure officer within a file preparation unit. She was highly regarded by colleagues, the Crown Prosecution Service and defence solicitors, and took enormous pride in doing her job properly. Her husband, Gwyn, recalls that she held herself to extremely high standards, something reflected throughout her staff appraisals and the respect she received from those who worked alongside her.
Non was never someone who sought recognition for what she did. Gwyn describes her as one of those officers who simply got on with the job, a genuinely hard-working police officer with strong moral and ethical standards who was “deeply professional and very good at her job.”
But Non was much more than a police officer.
She and Gwyn married in 1983 and spent more than 25 years together. Away from work, she enjoyed walking, travelling and spending time with their dog. They had travelled extensively together and, with retirement approaching, were beginning to think about the next chapter of their lives. There were plans for more travelling, more walking and simply having the time to enjoy life beyond policing.
The day before Non died, snow was falling heavily across the area. She and Gwyn went out together with their dog, Alf, for a walk in the snow. It was an ordinary moment at the time, but one of the memories of their life together that remains.
On 4 February 2009, Non died. She was 45 years old and approaching her 46th birthday.
Non should be remembered as a wife, a friend, a traveller, a dog lover and a dedicated police officer who spent almost her entire adult life serving others. She was someone who worked hard, expected high standards of herself and quietly earned the respect of the people around her.
Cysegrodd PC Non Wyn Parry bron i dri degawd o’i bywyd i blismona ac i gymunedau Gogledd Cymru.
O oedran ifanc, roedd Non yn gwybod ei bod am fod yn swyddog heddlu. Roedd wedi gwneud yn arbennig o dda yn academaidd, gan ennill tua deg Lefel O, ac fe’i hanogwyd i barhau â’i haddysg, gyda’r posibilrwydd o fynd ymlaen i’r brifysgol a dilyn gyrfa ym myd addysg. Ond roedd gan Non syniadau eraill. Yn ddim ond 16 oed, gadawodd yr ysgol i ddod yn gadét yr heddlu, cyn ymuno â Heddlu Gogledd Cymru fel cwnstabl tua 18½ oed, oddeutu 1981.
Dechreuodd Non ei gyrfa ym maes plismona ymateb, ac aeth ymlaen i wasanaethu mewn amrywiaeth o rolau. Daeth yn fynegeiwr HOLMES a bu’n ymwneud â nifer o ymchwiliadau mawr yn ystod cyfnod arbennig o heriol i blismona yng Ngogledd Cymru. Cydnabuwyd ei gallu fel ymchwilydd gan ei chydweithwyr, ac fe’i hanogwyd i ddilyn gwaith ditectif, gan dreulio cyfnodau yn gwasanaethu fel cwnstabl ditectif.
Yn ddiweddarach, gwasanaethodd ym maes plismona cymunedol, gweithiodd fel anfonwr mewn ystafell reoli ranbarthol, a bu’n ymwneud â gwaith ymchwilio arbenigol mewn perthynas â’r ymosodiadau llosgi bwriadol ar dai haf yng Nghymru. Drwy gydol ei gyrfa, enillodd Non enw da fel swyddog heddlu dibynadwy, galluog a hynod broffesiynol.
Daeth ei gwasanaeth hefyd â phrofiadau na fydd llawer o bobl y tu allan i’r heddlu byth yn eu deall yn llawn. Wrth blismona cymunedau o amgylch troed yr Wyddfa, bu Non yn delio â marwolaethau yn y mynyddoedd a digwyddiadau trawmatig eraill, gan gynnwys marwolaeth Sgowt ifanc yn dilyn cwymp. Ymosodwyd arni hefyd yn ystod ei gwasanaeth. Fel cenedlaethau o swyddogion, profodd lawer o hyn mewn cyfnod pan nad oedd effaith seicolegol gwaith yr heddlu yn cael ei thrafod mor agored ag y mae heddiw.
Yn ystod blynyddoedd olaf ei gyrfa, gweithiodd Non fel swyddog datgelu mewn uned paratoi ffeiliau. Roedd ei chydweithwyr, Gwasanaeth Erlyn y Goron a chyfreithwyr yr amddiffyniad yn ei pharchu’n fawr, ac roedd yn ymfalchïo’n fawr mewn gwneud ei gwaith yn iawn. Mae ei gŵr, Gwyn, yn cofio ei bod yn gosod safonau uchel iawn iddi hi ei hun, rhywbeth a adlewyrchwyd yn ei harfarniadau staff ac yn y parch a ddangoswyd iddi gan y rhai a weithiodd ochr yn ochr â hi.
Nid oedd Non erioed yn rhywun oedd yn chwilio am gydnabyddiaeth am yr hyn a wnâi. Mae Gwyn yn ei disgrifio fel un o’r swyddogion hynny oedd yn bwrw ymlaen â’r gwaith, yn swyddog heddlu gwirioneddol weithgar gydag egwyddorion moesol ac egwyddorion proffesiynol cryf, ac a oedd yn “hynod broffesiynol ac yn dda iawn yn ei swydd.”
Ond roedd Non yn llawer mwy na swyddog heddlu.
Priododd hi a Gwyn ym 1983 a threuliasant fwy na 25 mlynedd gyda’i gilydd. Y tu allan i’r gwaith, roedd hi’n mwynhau cerdded, teithio a threulio amser gyda’u ci. Roeddent wedi teithio’n helaeth gyda’i gilydd ac, wrth i ymddeoliad agosáu, roeddent yn dechrau meddwl am bennod nesaf eu bywydau. Roedd ganddynt gynlluniau i deithio mwy, cerdded mwy, ac yn syml i gael yr amser i fwynhau bywyd y tu hwnt i blismona.
Y diwrnod cyn i Non farw, roedd eira trwm yn disgyn ar draws yr ardal. Aeth hi a Gwyn allan gyda’i gilydd i fynd am dro yn yr eira gyda’u ci. Roedd yn foment gyffredin ar y pryd, ond mae’n un o’r atgofion o’u bywyd gyda’i gilydd sy’n parhau.
Ar 4 Chwefror 2009, bu farw Non. Roedd hi’n 45 oed ac yn agosáu at ei phen-blwydd yn 46 oed.
Dylid cofio Non fel gwraig, ffrind, teithiwr, rhywun oedd yn caru cŵn, a swyddog heddlu ymroddedig a dreuliodd bron ei holl fywyd fel oedolyn yn gwasanaethu eraill. Roedd hi’n rhywun a weithiodd yn galed, a oedd yn disgwyl safonau uchel ganddi hi ei hun, ac a enillodd barch y bobl o’i chwmpas yn dawel ac yn ddiymhongar.
From the family
She loved the job. She was deeply professional and very good at her job.

